Gwasanaethau

Mae IPEP yn cynnig gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori i sefydliadau, grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau busnes, chwaraeon a’r lluoedd arfog.
Mae’n holl weithgarwch ymgynghori yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid, ac felly yn cael ei yrru gan yr hyn y mae ein cleientiaid ei eisiau, yn hytrach nag unrhyw agenda a gynlluniwyd ymlaen llaw. Mae'r gwaith a wnawn bob amser yn seiliedig ar theori a gwybodaeth seicolegol fel y gall cleientiaid fod yn hyderus eu bod yn derbyn gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Sefydliadau

Mae aelodau IPEP yn gweithio gyda sefydliadau o bob math gyda'r nod o greu hinsawdd sefydliadol effeithiol. Trwy gydweithio gyda'n hymgynghorwyr, mae'r sefydliad yn cael ei gynorthwyo i ddatblygu gweledigaeth o ble mae'n dymuno mynd, ac yna mae aelodau'n cael eu cefnogi A'u herio i gyflawni'r weledigaeth hon. Agwedd allweddol ar y broses hon yw darparu gwasanaeth i bersonél penodol (e.e., rheolwyr) i gynyddu eu dealltwriaeth a'u hyder i integreiddio egwyddorion seicoleg perfformiad yn eu gweithgareddau dyddiol eu hunain gyda'r rhai y maent yn gweithio gyda nhw.

Grwpiau  

Rydym yn gweithio gyda grwpiau o bob math a maint (e.e., o adrannau'r fyddin i dimau chwaraeon) gyda'r nod o ddatblygu gweithredu effeithiol rhwng grwpiau a chynorthwyo lles a pherfformiad. Gallwn wneud hyn mewn dwy ffordd: 1) drwy hwyluso gweithdai grŵp rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar bynciau penodol sy’n cael eu hystyried yn bwysig gan ein cleientiaid (e.e. adeiladu timau cydlynol, meithrin hyder o fewn tîm), a 2) gweithio ochr yn ochr â hyfforddwyr a rheolwyr i alluogi’r unigolion hyn i integreiddio egwyddorion seicolegol yn eu gweithgareddau eu hunain.

Unigolion

Gall aelodau IPEP gynnig gwasanaethau ymgynghori un-i-un i unigolion gyda'r nod o hwyluso perfformiad lefel uchel a datblygu lles seicolegol. O fewn y gwasanaeth hwn, anogir cleientiaid i gymryd rhan weithredol yn natblygiad pecynnau ymyrraeth cwbl unigol, yn seiliedig ar asesiad manwl o'u hanghenion, i wella ansawdd hyfforddiant a pherfformiad.

Ymhlith y sefydliadau proffil uchel rydym wedi gweithio gyda nhw mae:

  • Bwrdd Criced Cymru a Lloegr
  • UK Sport
  • Chwaraeon Cymru
  • Rugby Football Union
  • British Gymnastics
  • GB Rowing
  • English Institute of Sport
  • Australian Institute of Sport
  • City Football Services (Manchester City FC)
  • Outlook Expeditions
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Cydweithredu mewn Ymchwil

Yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau allanol, mae staff IPEP wedi sefydlu cydweithrediadau ymchwil gyda chydweithwyr mewn amrywiol Brifysgolion ledled y byd. Rydym yn mwynhau gweithio gyda'n holl gydweithwyr ymchwil. Mae rhai o’n cydweithrediadau ymchwil mwyaf sefydledig yn cynnwys:

  • Prifysgol Birmingham
  • Prifysgol Southampton
  • Prifysgol Suffolk
  • Prifysgol John Moores Lerpwl
  • Prifysgol Metropolitan Manceinion
  • Prifysgol Loughborough
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Thessaly, Gwlad Groeg
  • Western University, Canada
  • University of Windsor, Canada
  • Curtin University, Awstralia
  • Prifysgol Waikato, Seland Newydd