MSc Seicoleg Perfformiad Ar-lein

Yn 2020, lansiodd IPEP raglen MSc ran-amser ar-lein (dysgu o bell) gyntaf y DU mewn Seicoleg Perfformiad. Mae’r cwrs hwn yn gyfan gwbl ar-lein ac mae wedi denu ymgeiswyr o bob rhan o’r byd ac o amrywiaeth eang o gefndiroedd gan gynnwys chwaraeon elitaidd, busnes, y celfyddydau perfformio a’r lluoedd arfog. Caiff y cwrs ei gynllunio a'i gyflwyno gan staff IPEP gyda'r nod penodol o helpu'r rhai sy'n cofrestru i gael y gorau allan o'u hunain ac eraill mewn unrhyw faes perfformiad uchel.

I ddysgu mwy am y cwrs hwn gweler y manylion ar dudalen we yr Ysgol trwy glicio yma

Mae'r cyhoeddiadau enghreifftiol ar gael trwy ein tudalennau Ymchwil yn rhoi sampl o’r math o ddeunydd sy’n cael sylw ar y modiwlau o fewn y cwrs hwn a gellir ei ddefnyddio fel ffynhonnell darllen paratoadol (dewisol) i’r rhai sydd eisoes wedi cofrestru.