Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît
Mae'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) wedi'i leoli yn Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad, Prifysgol Bangor. Sefydlwyd IPEP yn 2000. Ein cenhadaeth yw datblygu ymchwil gyda'r gorau yn y byd sy'n llywio rhagoriaeth perfformiad ym mhob maes y mae rhagoriaeth perfformiad yn ganolog iddo.
Mae’n gweledigaeth yn syml: Cael ein cydnabod fel arweinydd rhyngwladol mewn ymchwil i seicoleg perfformiad elît. Rydym mewn sefyllfa unigryw i integreiddio'r gwersi a ddysgwyd o’r meysydd sy'n canolbwyntio ar berfformiad i ddeall, ac effeithio'n gadarnhaol, ar y ffactorau seicolegol sy'n sail i berfformiad elît.
Agor Trawsgrifiad Fideo IPEP
Rydym yn grŵp o 12 academydd, 15 ymchwilydd doethurol, a ni yw’r tîm ymchwil sy’n canolbwyntio ar seicoleg perfformiad.
Fy enw i yw Andy Cook. Rwy’n gyfarwyddwr y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit (IPEP) Sefydlwyd IPEP yn wreiddiol yn 2000, ac rydym yn falch iawn bod yr ymchwil blaengar yr ydym yn ei wneud wedi cael effaith wirioneddol ar draws y byd. Damcaniaethau IPEP a phapurau IPEP ar bynciau fel gwytnwch meddyliol, straen a pherfformiad, hyder a pherfformiad. Mae’r rhain i gyd bellach yn elfennau pwysig sy'n cael eu dysgu ar y cwricwlwm mewn adrannau gwyddor chwaraeon ac mewn adrannau seicoleg ar draws y byd.
Rydym yn gwneud ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n berthnasol i seicoleg perfformiad uchel. Rydym yn gwneud ymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd mewn pynciau sy’n cynnwys personoliaeth, straen a pherfformiad, cymryd risg, gwydnwch, meithrin ac adnabod talent, lles meddyliol, a hefyd y mecanweithiau seicoffisioleg a niwrowyddonol sy’n sail i sut mae pobl yn ymateb i bwysau a sut mae pobl yn perfformio pan mae o'r pwys mwyaf.
Mae’r ddarpariaeth seicoleg chwaraeon, hynny yw, modiwlau ar raglenni israddedig, yn ogystal â’n rhaglen dysgu o bell mewn seicoleg perfformiad, yn cael eu cyflwyno gan y staff sy’n ymchwilwyr yn y Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elit.
Rydym yn falch iawn bod ein hymchwil yn cael ei restru'n gyson ymhlith yr adrannau mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang am safon ein hymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf y llywodraeth, dyfarnwyd bod 100% o’n gwaith ymchwil gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae dros gant o ymchwilwyr doethurol wedi graddio trwy ein sefydliad. Ac rydym yn falch iawn bod yr unigolion hynny bellach yn gweithio mewn sefydliadau proffil uchel, naill ai fel ymarferwyr neu fel ymchwilwyr. Mae llawer ohonynt mewn prifysgolion, mae rhai ohonynt yma gyda ni a rhai ohonynt mewn prifysgolion eraill ar draws y byd.
Mae gan y bobl sydd wedi symud ymlaen trwy ein sefydliad bellach yrfaoedd llwyddiannus iawn. Ac yn gynyddol erbyn hyn, rydym yn cyfrannu at feysydd eraill megis iechyd meddwl a lles, therapi a allai fod yn wirioneddol effeithiol ac yn fuddiol i bobl eraill yn ogystal â pherfformwyr elitaidd mewn chwaraeon. Ac mae hynny'n wirioneddol gyffrous.
Darllenwch y trydariadau diweddaraf gan Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor.