Aelodau

Dr Andrew Cooke

Dr Andrew Cooke – Cyafrwyddwr

Mae gan Andy BSc mewn Gwyddor Chwaraeon (Prifysgol Bangor, 2004–2007) a PhD mewn Seicoffisioleg (Prifysgol Birmingham, 2007–2010). Bu’n gweithio fel Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol ESRC ym Mhrifysgol Birmingham (2010–2012), cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor fel Darlithydd (2013–2020) ac Uwch Ddarlithydd (2020-Presennol). Mae ei ymchwil yn defnyddio dull aml-fesur (e.e., yr ymennydd, y llygaid, y galon a’r cyhyrau) i ymchwilio i: a) y mecanweithiau seicoffisiolegol sy’n sail i berfformiad dynol; a b) ymyriadau seicoffisiolegol i wella perfformiad (ee hyfforddiant niwroadborth). Mae’n cwmpasu ystod o feysydd perfformiad gan gynnwys chwaraeon (e.e., nodi tonnau ymennydd sy’n sail i’r perfformiad gorau posibl), iechyd (e.e., effeithiau niwroadborth ar symptomau echddygol clefyd Parkinson), a chludiant (e.e., effeithiau hyfforddiant syllu ar yrru). Bu Andy’n Olygydd Gwadd y cylchgrawn Sport, Exercise and Performance ar gyfer rhifyn carreg filltir arbennig oedd yn arddangos ymchwil seicoffisiolegol mewn gwyddor perfformiad. Mae wedi rhoi prif gyflwyniadau mewn cynadleddau gwyddor perfformiad yn y DU a thramor (e.e., Sefydliad Chwaraeon Awstralia), wedi gweithio gydag athletwyr elit o amrywiaeth o chwaraeon, ac wedi derbyn grantiau ymchwil gan amryw o gyllidwyr (e.e., ESRC, GIG, Yswiriant AXA, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr).

Prof Tim Woodman

Enillodd Tim MA o Brifysgol Queen’s, Canada yn 1995 a PhD o Brifysgol Bangor yn 2001. Mae’n fyd-enwog am ei waith ar bersonoliaeth, straen a gorbryder. Mae hefyd wedi datblygu theori cymryd risg sy’n gosod risg yng nghanol ymdrech ddynol. Mewn geiriau eraill, yn ôl yr Athro Woodman, mae risg yn hanfodol ar gyfer datblygiad dynol, gan gynnwys mewn chwaraeon elitaidd. Mae Tim ar Fwrdd Golygyddol y cyfnodolion gwyddonol The Sport Psychologist a’r Psychology of Sport. Bu’n gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon elît (e.e., athletwyr Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd), bu’n Gyfarwyddwr seicoleg i Gymdeithas Gymnasteg Prydain, ac mae’n cyflwyno gweithdai rheoli straen ac ymgynghori ar gyfer corfforaethau busnes rhyngwladol y gyfnewidfa stoc (e.e. Pernod Ricard) yn Ffrangeg a Saesneg. Mae wrth ei fodd yn bod yn egnïol yn y mynyddoedd, yoga, ceisio cadw’n heini, ac ambell wydraid o win coch da.

Prof Nichola Callow

Yr Athro Nichola Callow

Derbyniodd yr Athro Nichola Callow radd BSc mewn Addysg Gorfforol a Seicoleg o Brifysgol Bangor ym 1991, TAR mewn Gweithgareddau Awyr Agored a Gwyddoniaeth ym 1992 a PhD mewn Seicoleg Chwaraeon yn 2000. Derbyniodd ei Chadair Bersonol yn 2012, a hi yw Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol ar gyfer Addysgu a Dysgu. Fel rhan o’i swydd, mae’r Athro Callow yn aelod annibynnol (Prifysgol) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae ganddi enw da yn rhyngwladol am ei hymchwil sy’n ymwneud â delweddaeth ar gyfer perfformiad chwaraeon. Mae hi hefyd yn cynnal ymchwil ym meysydd arweinyddiaeth, dynameg grŵp, a gwydnwch. Mae gwedd drosiadol i’w hymchwil (theori i ymarfer) ar lefel elît a phroffesiynol ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol gan City Football Services y mae eu portffolio’n cynnwys Clwb Pêl-droed Manchester City.

Dr Ross Roberts

Dr Ross Roberts

Cwblhaodd Ross ei PhD ym Mhrifysgol Bangor yn 2008 ac mae bellach yn uwch ddarlithydd mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar bersonoliaeth mewn perthynas â pherfformiad ac iechyd, gyda ffocws penodol ar narsisiaeth. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf derbyniodd Ross gyllid ymchwil o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Rugby Football Union, UK Sport, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Chwaraeon Cymru, a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae llawer o’i waith yn gydweithredol ac yn cynnwys sefydliadau o’r maes Perfformiad Uchel. Mae cydweithwyr presennol a diweddar yn cynnwys yr ECB, UK Sport, RFU, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Mountain Training UK, a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’n Olygydd Cyswllt y cyfnodolyn The Sport Psychologist. Mae Ross hefyd yn seicolegydd siartredig ac yn gymrawd cyswllt o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac yn seicolegydd chwaraeon ac ymarfer corff cofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda pherfformwyr lefel uchel a hyfforddwyr mewn lleoliadau chwaraeon a milwrol ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â pherfformiad. Mae hefyd yn goruchwylio darpar ymarferwyr seicoleg.

Dr Stuart Beattie

Dr Stuart Beattie

Dyfarnwyd Doethuriaeth i Stuart, am waith o’r enw “Gorbryder, hunanhyder, hunan-effeithiolrwydd a pherfformiad: rhai heriau i’r meddwl presennol” gan Brifysgol Bangor yn 2006. Ariannwyd ei ymchwil yn rhannol gan Gymnasteg Prydain lle bu’n gweithio fel seicolegydd chwaraeon rhwng 2000 a 2005. Mae Stuart bellach yn uwch ddarlithydd mewn Seicoleg Perfformiad ac yn adnabyddus am ei ymchwil Gwydnwch Meddyliol a Chaledwch. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiectau gwydnwch gydag Outlook Expeditions, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a City Football Services (CPD Manchester City) yn ogystal â phrosiect Caledwch Meddwl gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Dr James Hardy

Dr James Hardy

Ar ôl cael ei radd israddedig o Brifysgol Birmingham, aeth James i Ogledd America i weld sut roedden nhw’n ymdrin â seicoleg chwaraeon. Cwblhaodd ei hyfforddiant ôl-raddedig (MA a PhD) ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario, Canada, dan oruchwyliaeth yr Athro Craig Hall. Mae’n gyflwynydd rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ymchwil yn canolbwyntio ar sgiliau meddwl (yn benodol, hunan-siarad a delweddaeth) a deinameg grŵp (ee, cydlyniant tîm ac arweinyddiaeth) ym meysydd chwaraeon ac ymarfer corff.

Yn ddiweddar bu James yn olygydd gwadd ar rifyn arbennig o The Sport Psychologist oedd ymwneud â Hunan-siarad mewn Chwaraeon ac mae’n Olygydd Cyswllt y Journal of Applied Sport Psychology yn ogystal ag aelod o Fwrdd Golygyddol y Journal of Sport and Exercise Psychology. Ariannwyd ei ymchwil gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), UK Sport, ESRC, a Global City Football Services (Clwb Pêl-droed Manchester Ciry).

Dr Gavin Lawrence

Dr Gavin Lawrence

Wedi ennill ei Ddoethuriaeth ym maes Ymddygiad Seicomotor o Brifysgol Bangor yn 2005, treuliodd Gavin 2 flynedd fel ymchwilydd Ôl-ddoethurol o fewn y Grŵp Ymchwil Gwyddor Modur ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Leeds. Tra’r oedd yno, cynhyrchodd ymchwil i fecanweithiau rheoli ac anhwylderau cydsymud mewn cyflyrau fel parlys yr ymennydd hemiplegig ac Anhwylder Cydsymud Datblygiadol. Mae Gavin bellach yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor yn cynnal ymchwil sy’n edrych ar sut y gallwn gyflymu’r daith at arbenigedd trwy fabwysiadu dull amlddisgyblaethol o ddeall y perfformiwr. Er enghraifft, newidynnau seicogymdeithasol a chymdeithasol-ddiwylliannol, digwyddiadau bywyd a ffordd o fyw, nodweddion corfforol, amodau hyfforddi ac ymarfer, a’r amgylchedd hyfforddi.

Mae Gavin yn gweithio gyda Sefydliadau Chwaraeon proffil uchel e.e., UK Sport, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), Codi Pwysau Cymru, England Athletics a UK Deaf Sport. Mae’n ddyn chwaraeon brwd ac mae’n teimlo’n gryf dros gymhwyso’r ymchwil ym maes Rheoli a Dysgu Echddygol i helpu unigolion a thimau i ennill arbenigedd yn gynt.

Dr Vicky Gottwald

Dr Vicky Gottwald

Ar ôl cwblhau TAR mewn Addysg Gorfforol Uwchradd ym Mhrifysgol Southampton, dychwelodd Vicky i Fangor i gwblhau ei PhD ym maes Ymddygiad Seicomotor. Mae hi bellach yn gweithio fel Darlithydd ym maes Caffael Sgiliau Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Prifysgol Bangor. Mae ei diddordebau ymchwil yn cyd-fynd yn dda â’i chariad at hyfforddi. Mae ei phrosiectau diweddar wedi archwilio’r defnydd o gyfarwyddiadau llafar i gyfeirio sylw yn effeithiol, ac wedi archwilio’r prosesau sy’n sail i symudiad dynol i wella perfformiad echddygol a chaffael sgiliau mewn lleoliadau cymhwysol. Mae prosiectau cyfredol yn ymchwilio i lwybrau talent ar draws nifer o chwaraeon perfformiad uchel gan gynnwys UK Sport, Codi Pwysau Cymru, England Athletics a UK Deaf Sport. Mae Vicky yn chwaraewr pêl-fasged a hyfforddwr brwd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda Thîm Cenedlaethol Merched dan 18 Cymru.

Dr Germano Gallicchio

Dr Germano Gallicchio

Seicoffisiolegydd yw Germano sy’n cynnal ymchwil sy’n canolbwyntio ar y rhyngweithio rhwng systemau biolegol (e.e., yr ymennydd, y galon, y llygaid) a sut mae cyflyrau seicolegol yn dylanwadu ar y rhyngweithiadau hyn. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Birmingham ac yna gweithiodd fel Cymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Loughborough cyn ymuno â Phrifysgol Bangor yn 2020. Mae wedi datblygu dull amlddisgyblaethol o fonitro athletwyr sy’n cynnwys asesu tonnau ymennydd, symudiadau llygaid, gweithgaredd cardiaidd, actifadu cyhyrol a chinemateg symud yn ystod perfformiad chwaraeon. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad cyfoethog i’r mecanweithiau sy’n rheoli perfformiad chwaraeon.

Dr Eleri Sian Jones

Dr Eleri Sian Jones

Enillodd Eleri ei gradd israddedig o Brifysgol John Moores Lerpwl yn 2006 a’i gradd Meistr o Brifysgol Bangor yn 2007. Yn dilyn hyn cwblhaodd Eleri PhD a ariannwyd gan Leverhulme, yn 2013 ym Mhrifysgol Morgannwg. Ar hyn o bryd mae Eleri yn gweithio fel darlithydd seicoleg chwaraeon dwyieithog yn y Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar bryder perfformiad, ac yn arbennig yn archwilio paradocs nod y broses, ac yn fwy diweddar mesur a chysyniadoli pryder mewn chwaraeon. Mae meysydd ymchwil eraill yn cynnwys hyfforddiant sgiliau meddwl ar gyfer hyfforddwyr, dwyieithrwydd mewn chwaraeon ac archwilio ffactorau personoliaeth mewn amgylcheddau ymarfer corff eithafol. Cyn hynny bu Eleri’n gweithio i Chwaraeon Cymru ac mae wedi cefnogi nifer o athletwyr o amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys; pêl-droed, rygbi, badminton, jiwdo, nofio, hwylio, athletau a dressage.

Dr Anthony Blanchfield

Dr Anthony Blanchfield

Rwy’n ddarlithydd mewn Seicoffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff yma ym Mhrifysgol Bangor ac mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y ffordd y gallwn addasu perfformiad dygnwch a/neu adferiad ar ôl ymarfer corff trwy dargedu’r ymennydd.
Graddiais o Brifysgol John Moores Lerpwl gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon yn 2005 ac yna es ymlaen i ennill gradd Meistr gyda Rhagoriaeth mewn Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Bangor yn 2007. Rhwng 2007 a 2009 bûm yn gweithio fel ffisiolegydd tîm cyntaf yn West Bromwich Albion FC cyn dod yn ôl i Fangor i gwblhau PhD mewn Seicoffisioleg Perfformiad Dygnwch. Wedyn bûm yn gweithio am flwyddyn fel ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn rhaglen ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor ac UK Sport, cyn cael fy mhenodi’n llawn amser gan Fangor yn 2015.
Yn fy amser ym Mangor rwyf wedi eistedd ar bwyllgor llywio ymchwil Sefydliad Gwyddor Perfformio Cymru (WIPS) ac rwy’n gweithio’n agos gyda mudiadau lleol fel Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn.

Prof Lew Hardy

Yr Athro Lew Hardy – Prif Weithredwr

Roedd Lew yn un o athrawon cyntaf seicoleg chwaraeon yn y Deyrnas Unedig ac mae’n un o nifer fach iawn o bobl sydd wedi rhoi prif anerchiadau ac anerchiadau gwadd ym mhob un o’r cynadleddau seicoleg chwaraeon mawr yn y byd. Mae ganddo dros 100 o gyhoeddiadau ymchwil hyd llawn a gwasanaethodd dri chylch Olympaidd fel cadeirydd Grŵp Llywio Seicoleg Cymdeithas Olympaidd Prydain (o 1989 i 2000). Ei ddiddordeb ymchwil canolog yw seicoleg perfformiad lefel uchel iawn, gan gynnwys effeithiau straen, caledwch meddwl, cymhelliant, defnyddioldeb sgiliau a strategaethau seicolegol, arweinyddiaeth drawsnewidiol, a gwaith tîm. Bu’n gyfrifol am ennill grantiau gwerth dros £1 miliwn ac mae ganddo brofiad gweithredol cyfartal o weithio ar draws meysydd milwrol, busnes a chwaraeon.
Mae Lew wedi ymddeol o’i rôl academaidd ym Mhrifysgol Bangor, ond mae’n parhau i fod yn gydweithredwr ymchwil allweddol yn y Sefydliad.